Cylch chwarae i blant Cymry Llundain â'u rhieni / gwarchodwyr
bob bore Mercher o 9.45 i 11.45
Diolch arbennig i Eglwys Gymraeg Canol Llundain am roi cartref i'r Cylch!
Y profiadau cynharaf sy' wir yn creu'r argraff mwyaf ar ein bywydau. Pa amser gwell felly i fabanod Cymry Llundain gael cymdeithasu drwy iaith y nefoedd! Ein nôd yw i gysylltu Cymry bach y "mŵg mawr" a'u cynorthwyo i dyfu'n unigolion hapus â'u gwreiddiau'n gryf yn yr iaith a'r diwylliant Gymreig.
Diolch i Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Trystan Llŷr Griffiths, Gwawr Edwards, Tom Simmons, Rob Nicholls, a Sarah Roberts am ddiwrnod arbennig!
Diolch o galon i un o ddylunwyr mwyaf talentog Cymru am greu logo arbennig Cylch Canol Llundain - y ddraig yn ymdoddi i'r Tafwys!
Danfonwch neges i helo@cylch.co.uk yn dyfalu'r dylunydd am siawns i ennill Ffedog a photel ddŵr aml-ddefnydd arbennig Cylch Canol Llundain.
Mae Cylch Canol Llundain yn hapus iawn i gyhoeddi ein project newydd gyda cwmni Ffedog!
Bydd ffedogau bach a mawr gyda’n logo arbennig ar gael i'w prynu cyn hir, yn ogystal â bagiau "tote" sydd wedi'u dylunio'n arbennig ar ein cyfer.
Rydym yn ffodus iawn i gael Tom Simmons - y Cymro o Sir Benfro o enwocrwydd "Masterchef" - i olygu ein colofn tymhorol, "Blasau Bach".
Diolch i ti Tom!
Wedi gwneud ei farc fel un o denoriaid rhyngwladol mwyaf llwyddiannus Cymru, cawn ddilyn Trystan o lwyfan i lwyfan (a mwy!), yn ei "flog" arbennig ar gyfer y Cylch.
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein cydweithrediad gyda gwasg newydd sbon Gwdihŵ! Gyda hwyl-wynt, bydd y llyfr cynta' - sydd wedi'i greu'n arbennig ar ein cyfer - ar gael yn ddigidol erbyn Gwyl Halibalŵ Llundain ar y 10fed o Hydref.
Mae Gwawr - un o dalentau soprano gorau Cymru - bellach wedi troi'i llaw at ysgrifennu llyfr newydd i blant.
Yma, cawn flâs o stori "Mali" ac eraill gan yr awdur ei hun! Diolch Gwawr!
Dyma lle bydd Tom Simmons, y "Masterchef" o Sir Benfro yn rhannu ryseitiau arbennig gyda ni bob tymor!
Pa gynhwysion 'ych chi'n eu hoffi? Danfonwch ebost i helo@cylch.co.uk gyda'ch hoff flasau ac fe wnawn ni sgwrsio gyda Tom am y posibiliadau!
Tra bod Tom wrthi'n brysur yn dylunio rysait yr Hydref, pam na ymwelwch chi â'i fwyty arbennig yn Tower Bridge am ragflas o beth sy' i ddod...
Yma, cawn ddilyn Trystan o lwyfan i lwyfan yn ei flog newydd...
Yma, cawn glywed Gwawr Edwards yn darllen straeon "Mali" a mwy...
Clywch am ein newyddion diweddaraf a'n digwyddiadau arbennig!